Gweithredu cymunedol yn erbyn troseddu: cronfa arloesi

Heddiw, mae’r Swyddfa Gartref yn agor cronfa grantiau newydd er mwyn hybu dulliau creadigol newydd o fynd i’r afael â throseddu – Gweithredu Cymunedol yn erbyn Troseddu: Cronfa Arloesi.

Mae’r broses ymgeisio bellach ar agor a gwahoddir ceisiadau ar gyfer eleni hyd at 1 Rhagfyr 2011. AR GYFER LLOEGR: Mae’r broses ymgeisio bellach ar agor, drwy fynd i http://www.cdf.org.uk/web/guest/crime-innovation-fund

AR GYFER CYMRU’N UNIG: Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd yma AR GYFER CYMRU’n unig a dylech eu hanfon i’r cyfeiriad e-bost hwn: caacfunding@homeoffice.gsi.gov.uk.

(Nodwch fod ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd gwahanol ar gael ar gyfer ceisiadau rhwng £1,000 a £15,000 a rhwng £15,000 a £50,000. Gwnewch yn si?r eich bod yn defnyddio’r ffurflen gais gywir.

Y Gronfa

Bydd y gronfa arloesi, sy’n werth £5 miliwn yn 2011/12, gyda £5 miliwn arall wedi’i neilltuo ar gyfer 2012/13, yn cael ei defnyddio i hybu mwy o weithgarwch cymunedol, ac er mwyn galluogi cymunedau i ddatblygu dulliau arloesol o fynd i’r afael â phroblemau troseddu lleol sydd o bwys iddynt.
Rydym yn arbennig o awyddus i’r gronfa fod ar gael i aelodau gweithgar o’r gymuned ar lawr gwlad nad ydynt yn tueddu fel arfer i gael grantiau gan y llywodraeth.

Hefyd, hoffem i’r gronfa hybu partneriaethau effeithiol fel bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â throseddu. Bydd y gronfa’n cael ei defnyddio i annog grwpiau gwirfoddol a chymunedol i weithio gyda’u partneriaeth diogelwch cymunedol i fynd i’r afael â phroblemau troseddu yn lleol, gan gynnwys cydgynllunio a chyd-gyflawni mentrau i leihau troseddu.
Byddwn hefyd yn ceisio cefnogi prosiectau sy’n llwyddo i gynnwys busnesau lleol yn y gwaith, naill ai drwy arian cyfatebol, neu drwy gymryd rhan uniongyrchol yn y prosiect ei hun.

Meini Prawf

Er mwyn helpu darpar-ymgeiswyr, rydym wedi amlinellu’r meini prawf fydd yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau ariannu. Rhaid i bob cais ddangos ei fod:

  • yn arloesol
  • yn sicrhau budd parhaol
  • wedi cynnwys cymunedau lleol
  • yn mynd i’r afael â phroblemau troseddu sydd o bwys i’r gymuned leol, gyda sylw arbennig ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu mewn cymdogaethau lleol, camddefnyddio sylweddau, aildroseddu, trais yn erbyn menywod a merched, a throseddau ieuenctid

Meini prawf dymunol

Er nad ydym am ddweud yn bendant sut dylai prosiectau gael eu cyflawni, byddwn yn rhoi ystyriaeth ychwanegol i geisiadau sy’n gallu dangos eu bod yn cyflawni’r meini prawf dymunol canlynol:

  • gweithio mewn partneriaeth rhwng y sector gwirfoddol a chymunedol, a’r bartneriaeth diogelwch cymunedol leol, neu un o’r asiantaethau statudol sy’n rhan ohoni
  • gweithio mewn partneriaeth rhwng y sector gwirfoddol a chymunedol a sefydliadau sector preifat yn lleol.  Gallai hyn ddigwydd drwy gydweithio ar brosiect, neu drwy arian cyfatebol (mewn arian, amser, neu nwyddau a gwasanaethau a ddarperir yn ddi-dâl fel gwasanaeth cyhoeddus)
  • ymwneud y gymuned leol yn y gwaith o gynllunio neu gyflawni’r prosiect

Date: Mon Sep 05 14:42:44 BST 2011

Full Document

Share |